Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mehefin 2020
Amser:
13.37 -
15.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6370
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Russell George AS (Cadeirydd) Hefin David AS Vikki Howells AS Helen Mary Jones AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Peter Hughes, Unite Cymru Mick Lynch, RMT Deb Bowen Rees, Maes Awyr Caerdydd Spencer Birns, Maes Awyr Caerdydd Scott Pearson, Cludiant Casnewydd Nigel Winter, Stagecoach |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Francesca Howorth (Ymchwilydd) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Teyrnged i Mohammad Asghar AS a fu farw yr wythnos hon.
1.2Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
1.3 Datganodd Joyce Watson AS ei bod yn aelod o UNITE.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.2 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.3 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch pwyntiau gweithredu yn dilyn y cyfarfod ar 11 Mai
2.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.4 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at Ganghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS
2.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3 COVID-19: Trafnidiaeth - Undebau Llafur
3.1 Gwnaeth Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite a Mick Lynch, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, ateb cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
4 COVID-19: Trafnidiaeth - Maes Awyr Caerdydd
4.1 Gwnaeth Deb Bowen Rees, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd, a Spencer Birns, Prif Swyddog Masnachol Maes Awyr Caerdydd, ateb cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
5 COVID-19: Trafnidiaeth Gyhoeddus - Trafnidiaeth Cymru a Gweithredwyr Bysiau
5.1 Gwnaeth Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru, a Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Casnewydd, ateb cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Preifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft: Datgarboneiddio Trafnidiaeth.